1 O Deuwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.
2 Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a'ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster.
3 Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.
4 Wele, rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn flaenor ac yn athro i'r bobloedd.
5 Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni'th adwaenai di a red atat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a'th ogoneddodd.
6 Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.
7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
8 Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd.
9 Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
10 Canys fel y disgyn y glaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i'r heuwr, a bara i'r bwytawr:
11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid.
12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y'ch arweinir; y mynyddoedd a'r bryniau a floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
13 Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i'r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.