1 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a'u goresgynnodd hwynt.
2 A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr.
3 Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.
4 A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo?
5 Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i'm herbyn?
6 Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno.
7 Ond os dywedi wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a'i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch?
8 Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i'm harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt.
9 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o'r gweision lleiaf i'm harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion?
10 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.
11 Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.
12 Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi?
13 A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria:
14 Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi.
15 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a'ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.
16 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o'i winwydden ei hun, a phob un o'i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun;
17 Nes i mi ddyfod a'ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.
18 Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a'n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?
19 Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o'm llaw i?
20 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a'r a waredasant eu gwlad o'm llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o'm llaw?
21 Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.
22 Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â'u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.