1 Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat.
2 Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd, a'i ogoniant a welir arnat.
3 Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.
4 Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a'th ferched a fegir wrth dy ystlys.
5 Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.
6 Lliaws y camelod a'th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr Arglwydd a fynegant.
7 Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a'th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.
8 Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i'w ffenestri?
9 Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a'u haur gyda hwynt, i enw yr Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
10 A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a'u brenhinoedd a'th wasanaethant; canys yn fy nig y'th drewais, ac o'm hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
11 Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
12 Canys y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.
13 Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.
14 A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.
15 Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i'r holl genedlaethau.
16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.
18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th Dduw yn ogoniant i ti.
20 Ni fachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y'm gogonedder.
22 Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.