1 Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na'r hon y mae gŵr iddi, medd yr Arglwydd.
2 Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.
3 Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a'th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.
4 Nac ofna; canys ni'th gywilyddir: ac na'th waradwydder, am na'th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.
5 Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.
6 Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y'th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw.
7 Dros ennyd fechan y'th adewais; ond â mawr drugareddau y'th gasglaf.
8 Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd.
9 Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na'th geryddwn.
10 Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
11 Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a'th sylfaenaf â meini saffir.
12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a'th byrth o feini disglair, a'th holl derfynau o gerrig dymunol.
13 Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion.
14 Mewn cyfiawnder y'th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.
15 Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i'th erbyn, efe a syrth.
16 Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i'w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17 Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.