1 Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi.
2 Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i'r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.
3 Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.
4 Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.
5 Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.
6 Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni.
7 Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a'r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg.
8 Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a'u hochain hyd Beer‐elim.
9 Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.