1 Baich Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel nad oes na thŷ, na chyntedd: o dir Chittim y datguddiwyd iddynt.
2 Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi.
3 Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly marchnadfa cenhedloedd yw hi.
4 Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion.
5 Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus.
6 Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys.
7 Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a'i dygant hi i ymdaith i bell.
8 Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a'r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear?
9 Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear.
10 Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach.
11 Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth, ddinistrio ei chadernid.
12 Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.
13 Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a'i tynnodd hi i lawr.
14 Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth.
15 A'r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain.
16 Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: cân gerdd yn dda: cân lawer fel y'th gofier.
17 Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear.
18 Yna y bydd ei marchnad a'i helw yn sancteiddrwydd i'r Arglwydd: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus.