Eseia 38 BWM

1 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2 Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr Arglwydd:

3 A dywedodd, Atolwg, Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

4 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Eseia, gan ddywedyd,

5 Dos, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.

6 Ac o law brenin Asyria y'th waredaf di a'r ddinas: a mi a ddiffynnaf y ddinas hon.

7 A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair hwn a lefarodd;

8 Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda'r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd‐ddynt.

9 Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o'i glefyd:

10 Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.

11 Dywedais, Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd.

12 Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; â nychdod y'm tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.

13 Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.

14 Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O Arglwydd, gorthrymwyd fi; esmwythâ arnaf.

15 Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid.

16 Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi.

17 Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ôl i'th gefn.

18 Canys y bedd ni'th fawl di, angau ni'th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.

19 Y byw, y byw, efe a'th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i'r plant dy wirionedd.

20 Yr Arglwydd sydd i'm cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr Arglwydd.

21 Canys Eseia a ddywedasai, Cymerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.

22 A dywedasai Heseceia, Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr Arglwydd?