1 Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o'i wraidd ef.
2 Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd;
3 Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe.
4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.
5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.