13 Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim.
14 Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua'r gorllewin; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt.
15 Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â'i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a'i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droetsych.
16 A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria, megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft.