4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.
5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.
6 A'r blaidd a drig gyda'r oen, a'r llewpard a orwedd gyda'r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a'u harwain.
7 Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt.
8 A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law.
9 Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.
10 Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i'r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a'i orffwysfa fydd yn ogoniant.