1 Baich Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos.
2 Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.
3 Myfi a orchmynnais i'm rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i'm dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad.
4 Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.