2 Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.
3 Myfi a orchmynnais i'm rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i'm dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad.
4 Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.
5 Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.
6 Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.
7 Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:
8 A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.