1 Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain: a'r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.
2 Y bobl hefyd a'u cymer hwynt, ac a'u dygant i'w lle, a thŷ Israel a'u meddianna hwynt yn nhir yr Arglwydd, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a'u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.
3 A bydd, yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo,
4 I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur?
5 Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr.