13 Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd;
14 Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf.
15 Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.
16 Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?
17 A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?
18 Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:
19 Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.