15 Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.
16 Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?
17 A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?
18 Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:
19 Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.
20 Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a'th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.
21 Darperwch laddfa i'w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.