25 Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.
26 Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.
27 Oherwydd Arglwydd y lluoedd a'i bwriadodd, a phwy a'i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a'i try yn ôl?
28 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.
29 Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.
30 A chynblant y tlodion a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.
31 Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef.