29 Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.
30 A chynblant y tlodion a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.
31 Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef.
32 A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o'r Arglwydd Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.