8 Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i'n herbyn.
9 Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd.
10 Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?
11 Disgynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a'th doant.
12 Pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd!
13 Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd;
14 Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf.