10 Y llawenydd hefyd a'r gorfoledd a ddarfu o'r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i'w bloedd gynhaeaf beidio.
11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a'm perfedd am Cir‐hares.
12 A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i'w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo.
13 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw.
14 Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a'r holl dyrfa fawr; a'r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym.