2 Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o'r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.
3 Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad.
4 Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o'r tir.
5 A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.
6 Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a'i draha, a'i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau.
7 Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd.
8 Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.