6 Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a'i draha, a'i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau.
7 Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd.
8 Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.
9 Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â'm dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd.
10 Y llawenydd hefyd a'r gorfoledd a ddarfu o'r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i'w bloedd gynhaeaf beidio.
11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a'm perfedd am Cir‐hares.
12 A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i'w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo.