1 Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.
2 Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a'u dychryno.
3 A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha.
5 Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â'i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.
6 Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel.
7 Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a'i lygaid a edrychant ar Sanct Israel: