11 Y dydd y gwnei i'th blanhigyn dyfu, a'r bore y gwnei i'th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.
12 Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.
13 Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a'u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt.
14 Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a'n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a'n hysbeiliant ni.