3 Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn.
4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf.
5 Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a'r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig â chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau.
6 Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.
7 Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a'i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw Arglwydd y lluoedd, sef i fynydd Seion.