1 Baich yr Aifft. Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i'r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol.
2 Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3 Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.
4 A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd.
5 A'r dyfroedd a ddarfyddant o'r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.