15 Ac ni bydd gwaith i'r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na'r gloren, y gangen na'r frwynen.
16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi.
17 A bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft: pwy bynnag a'i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.
18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.
19 Y dydd hwnnw y bydd allor i'r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi.
20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a'u gwared hwynt.
21 A'r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i'r Arglwydd, ac a'i talant.