18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.
19 Y dydd hwnnw y bydd allor i'r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi.
20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a'u gwared hwynt.
21 A'r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i'r Arglwydd, ac a'i talant.
22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a'i tery, ac a'i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a'u gwrendy hwynt, ac a'u hiachâ hwynt.
23 A'r dydd hwnnw y bydd priffordd o'r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i'r Aifft, a'r Eifftiad i Asyria: a'r Eifftiaid gyda'r Asyriaid a wasanaethant.
24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda'r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: