22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a'i tery, ac a'i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a'u gwrendy hwynt, ac a'u hiachâ hwynt.
23 A'r dydd hwnnw y bydd priffordd o'r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i'r Aifft, a'r Eifftiad i Asyria: a'r Eifftiaid gyda'r Asyriaid a wasanaethant.
24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda'r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir:
25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.