3 Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.
4 A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd.
5 A'r dyfroedd a ddarfyddant o'r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.
6 A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen.
7 Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy.
8 Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a'r rhai oll a fwriant fachau i'r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.
9 Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a'r rhai a weant rwydwaith.