8 Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a'r rhai oll a fwriant fachau i'r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.
9 Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a'r rhai a weant rwydwaith.
10 A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.
11 Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd?
12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft.
13 Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.
14 Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i'r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.