8 Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:
9 A'r gwrêng sydd yn ymgrymu, a'r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
10 Dos i'r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef.
11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,
14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,