1 Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o'r anialwch, o wlad ofnadwy.
2 Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a'r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i'w holl riddfan hi ddarfod.
3 Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a'm daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.
4 Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a'm dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi.
5 Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian.
6 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo.
7 Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.