13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.
14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â'i fara.
15 Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel.
16 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar:
17 A'r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arglwydd Dduw Israel a'i dywedodd.