8 Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.
9 Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.
10 O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegais i chwi.
11 Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos?
12 Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a'r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.
13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.
14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â'i fara.