14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed,
16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?
17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a'th wisg di.
18 Gan dreiglo y'th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.
19 Yna y'th yrraf o'th sefyllfa, ac o'th sefyllfa y dinistria efe di.
20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia: