17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a'th wisg di.
18 Gan dreiglo y'th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.
19 Yna y'th yrraf o'th sefyllfa, ac o'th sefyllfa y dinistria efe di.
20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia:
21 A'th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â'th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda.
22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro.
23 A mi a'i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad.