7 A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a'r gwŷr meirch a ymfyddinant tua'r porth.
8 Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ'r goedwig.
9 A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf.
10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau'r mur.
11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a'i lluniodd ef er ys talm.
12 A'r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain:
13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw.