1 Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion.
2 Yna bydd yr un ffunud i'r bobl ac i'r offeiriad, i'r gwas ac i'w feistr, i'r llawforwyn ac i'w meistres, i'r prynydd ac i'r gwerthydd, i'r hwn a roddo ac i'r hwn a gymero echwyn, i'r hwn a gymero log ac i'r hwn a dalo log iddo.
3 Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn.
4 Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.
5 Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.
6 Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.