20 Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a'i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.
21 Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22 A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt.
23 Yna y lleuad a wrida, a'r haul a gywilyddia, pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.