5 Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi.
6 Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.
7 A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a'i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef?
8 Wrth fesur, pan êl allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt.
9 Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna'r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na'r delwau.
10 Eto y ddinas gadarn fydd unig, a'r annedd wedi ei adael, a'i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi.
11 Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a'i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a'u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a'r hwn a'u lluniodd ni thrugarha wrthynt.