1 Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.
2 Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw.
3 Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.
4 Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a'i llwnc hi, a hi eto yn ei law.