10 Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw.
11 Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn.
12 Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i'r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando.
13 Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
14 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem.
15 Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.