12 Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i'r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando.
13 Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
14 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem.
15 Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.
17 A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a foddant y lloches.
18 A diddymir eich amod ag angau, a'ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.