19 O'r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.
20 Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo.
21 Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.
22 Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.
23 Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.
24 Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir?
25 Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a'r haidd nodedig, a'r rhyg yn ei gyfle?