1 Canys wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a'r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,
2 Y cadarn, a'r rhyfelwr, y brawdwr, a'r proffwyd, y synhwyrol, a'r henwr,
3 Y tywysog deg a deugain, a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr, a'r crefftwr celfydd, a'r areithiwr huawdl.
4 A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.