14 Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a'u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
16 A'r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â'u traed:
17 Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion; a'r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt.
18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a'r lloerawg wisgoedd,
19 Y cadwynau, a'r breichledau, a'r moledau,
20 Y penguwch, ac addurn y coesau, a'r ysnodennau, a'r dwyfronegau, a'r clustlysau,