19 Y cadwynau, a'r breichledau, a'r moledau,
20 Y penguwch, ac addurn y coesau, a'r ysnodennau, a'r dwyfronegau, a'r clustlysau,
21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn,
22 Y gwisgoedd symudliw, a'r mentyll, a'r misyrnau, a'r crychnodwyddau,
23 Y drychau hefyd, a'r lliain meinwych, a'r cocyllau, a'r gynau.
24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.
25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a'th gadernid trwy ryfel.