2 Y cadarn, a'r rhyfelwr, y brawdwr, a'r proffwyd, y synhwyrol, a'r henwr,
3 Y tywysog deg a deugain, a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr, a'r crefftwr celfydd, a'r areithiwr huawdl.
4 A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.
5 A'r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a'r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa.
6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di:
7 Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i'r bobl.
8 Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a'u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.