6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di:
7 Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i'r bobl.
8 Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a'u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a'u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
10 Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
12 Fy mhobl sydd â'u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a'th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.