9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a'u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
10 Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
12 Fy mhobl sydd â'u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a'th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
13 Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bobloedd.
14 Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a'u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.